Wyddelig, gan feddu eu Chwip eu hunain ar wahan oddiwrth y blaid Ryddfrydol, ni wnaeth yr aelodau Cymreig yn nydd Tom Ellis ond yn unig ymffurfio yn "Bwyllgor Cymreig," gyda Chadeirydd ac Ysgrifenyddion (yn lle "Chwips"). Cyn ei fyned, ac wedi ei fyned i'r Senedd, mynai Lloyd George i'r Aelodau Cymreig fyned yn mhellach na hyn, ac ymffurfio o honynt yn "Blaid Gymreig Annibynol" ar gynllun y Blaid Wyddelig. Ond golygai hyny gladdu uchelgais personol, canys ni allai neb ond aelodau ufudd i'r Llywodraeth ac i'r Blaid a reolai'r Llywodraeth fyth obeithio cael mwynhau y torthau a'r pysgod, mewn swyddi ac anrhydedd, a theitlau o bob math y gallai'r Llywodraeth ranu i'r neb y mynai. Fel rheol, edrych yn mlaen am daledigaeth y gwobrwy, cael lle yn y Llywodraeth, neu swydd gyflogedig, neu'r teitl o Farchog, neu Farwnig, neu Arglwydd, a wnai pob gwr uchelgeisiol yn y Senedd.
Ond meddwl am Gymru, ac nid am na swydd, nac anrhydedd, na theitl a wnai Lloyd George pan yr aeth efe gyntaf i'r Senedd. Digiai yn aruthr wrth y Blaid Ryddfrydig am esgeuluso Cymru, ac wrth yr Aelodau Cymreig am ganiatau o honynt i'r Llywodraeth eu hanwybyddu hwy a hawliau eu gwlad. Mewn cyfarfod mawr yn Nghaerdydd, yn agos i bum mlynedd ar ol iddo gael ei ethol i'r Senedd, dywedodd:
"Am y 26 mlynedd diweddaf, mae mwyafrif mawr aelodau Cymru wedi bod yn Rhyddfrydwyr. Am 14 mlynedd o'r 26 mlynedd hyn, Llywodraeth Ryddfrydig oedd mewn awdurdod, ac am y rhan fwyaf o'r amser hwnw dybynai'r Llywodraeth Ryddfrydig ar ewyllys da aelodau Cymru am ei bodolaeth. Ond er hyn oll ni chafodd Cymru, yn ystod yr holl amser, gymaint ag un Mesur ar gyfer ei hangenion. Nid oes, yn nghorff y 14 mlynedd, gymaint ag wythnos of amser wedi cael ei ganiatau i ddadleu materion Cymru pe y cyfrifid pob dim ar a wnaed yn y Senedd ar ran Cymru. Ufuddheir yn ddioed i orchymynion Lloegr. Rhaid i'r cenedloedd Celtaidd hefyd wasgu ar y Llywodraeth, ac er mwyn gwneyd y gwasgu hyny yn beth effeithiol, rhaid i ni ddwyn holl nerth y genedl i fewn i un gyfundrefn. Yn ngwyneb rhagfarn a nwyd na welsom ni eu tebyg, llwyddodd yr unig genedl Geltaidd (y Gwyddelod) a wnaeth felly, i fynu cael gan Dy'r Cyffredin gyfres o'r Mesurau Diwygiadol mwyaf a basiwyd ganddo erioed."