Y Blaid Wyddelig felly oedd ei batrwm o Blaid Gymreig. Y diwygwyr mawr y mynai ef eu hefelychu oedd Owen Glyndwr (yr hwn a saif i Gymru rywbeth cyffelyb i'r hyn yw George Washington i'r Unol Dalaethau); ac Oliver Cromwell, rhyddhawr Lloegr. Dryllwyr delwau oedd y ddau, a gwnaethant Lloyd George hefyd yn ddrylliwr delwau o bob math. Ni chredai un o'r tri air y bardd, "Mae pob peth ar y sydd, yn iawn." Gwelent eill tri fod aml i beth "sydd" yn mhell o fod yn "iawn"; a chan gredu nad oedd yn iawn, gwrthwynebent roddi iddo y parch a'r ymlyniad a hawlid iddo gan yr awdurdodau. Bu Owen Glyndwr yn gyfaill a chydfilwr i Harri Bolingbroke (y Brenin Harri IV.), ond cododd mewn gwrthryfel i'w erbyn er mwyn Cymru; bu Glyndwr yn cydeistedd ag Arglwydd Grey o Ruthin yn Nghyngor y Brenin yn Westminster, ond y mynyd y daeth hawliau Cymru i'r cwestiwn ymosododd ar ei hen gyfaill, a thaflodd ef yn ngharchar. Torodd Oliver Cromwell ben yr Archesgob Laud a'r Brenin Siarl I., heb unrhyw betrusder, pan deimlodd fod buddianau'r bobl yn gofyn eu symud
Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/83
Gwedd