Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r ffordd. Felly y teimlai Lloyd George—ni chai dim fod yn gysegredig yn ei olwg os byddai'r peth hwnw yn rhwystr i fuddianau cenedlaethol Cymru.

Gwneyd Cymru'n un, a'i rhyddhau o iau y Sais oedd uchelgais Glyndwr. Mynai Lloyd George wneyd yr un peth yn ei ddydd yntau. "Cymru Gyfan" oedd ei arwyddair, a rhyddhau y Blaid Genedlaethol yn Nghymru oddiwrth rwymau'r Blaid Ryddfrydol yn Lloegr oedd ei nod. Ni phetrusodd Owen Glyndwr erioed ymosod ar na phenaeth na thywysog o Gymro a osodai deyrngarwch i Frenin Lloegr o flaen teyrngarwch i Gymru. Ni phetrusai Lloyd George yntau ymosod ar Lywodraeth Ryddfrydol a aberthai hawliau Cymru er mwyn hyrwyddo amcanion y Blaid Ryddfrydol. Cyn y ceid Cymru Gyfan mewn ystyr wleidyddol rhaid oedd cael Plaid Gymreig Annibynol yn Nhy'r Cyffredin. Golygai hyny nid yn unig ymwrthod ag awdurdod Chwip y Llywodraeth, ond hefyd. creu yn Nghymru beiriant ac awdurdod gwleidyddol hollol annibynol ar y Blaid Ryddfrydol yn Lloegr.

Dyna oedd sail a gwreiddyn mudiad "Cymru Fydd." Er mwyn sefydlu'r gyfundrefn newydd rhaid oedd yn gyntaf dileu yr hen. Yr oedd dau Gyngrair Rhyddfrydol yn Nghymru, y naill yn y Gogledd a'r llall yn y De. Galwodd Mr. Lloyd George ar bob un o'r ddau i gyflawnu hunanladdiad, gan addaw iddynt adgyfodiad gwell ar ffurf Cyfundrefn Genedlaethol Cymru Fydd. Anmharod oedd yr hen Ryddfrydwyr Cymreig i wneyd hyn. Gwrthwynebwyd Mr. Lloyd George yn benderfynol yn y Gogledd gan Mr. (yn awr y Barnwr)