Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llywodraeth, heb gydsyniad y tri arall. Etholwyd y pedwar yn aelodau yn yr Etholiad Cyffredinol yn 1892. Yr oedd Mr. Gladstone wedi canfod, yn ymddygiad adran fechan o'r aelodau Cymreig pan oedd y Toriaid mewn awdurdod, y posibilrwydd iddynt achosi trafferth i Weinyddiaeth Ryddfrydol. Felly, pan yn yr etholiad y cafodd y Rhyddfrydwyr fwyafrif clir yn Nhy'r Cyffredin, ac y galwyd yntau i fod yn Brif Weinidog, cymerodd fesurau i gadw'r Aelodau Cymreig yn dawel. Gan mai dim ond 40 oedd mwyafrif Gladstone, a chyfrif aelodau Cymru yn eu plith, gwelai y medrai'r aelodau Cymreig os ymunent a'r Toriaid i'w erbyn, ei orchfygu ef a'i Weinyddiaeth. Yn wir, dyma'r cyfle y dysgwyliasai Lloyd George am dano. Ond gwr cyfrwys oedd Mr. Gladstone. Pan yn ffurfio ei weinyddiaeth cynygiodd y swydd o Chwip i Tom Ellis, gan gredu o hono mai Tom Ellis oedd y mwyaf ei ddylanwad yn mhlith yr aelodau Cymreig, ac y medrai Tom felly berswadio'r lleill i fod yn blant da. Ond yr oedd anhawsder ar ffordd Tom Ellis i dderbyn y swydd, yn gymaint a'i fod wedi ymgyfamodi a'r tri arall a nodwyd uchod, i beidio derbyn swydd heb eu cydsyniad hwy. Yn yr argyfwng hwn, galwyd cyfarfod o'r pedwar i gael ei gynal yn fy nhy i yn Nghaernarfon. Methodd S. T. Evans ddod, ond amlygodd barodrwydd i gydsynio a'r hyn y penderfynid arno. Daeth Ellis, Lloyd George, a Herbert Lewis. Ymgyngorasom yn hir ac yn bryderus. Dadl Lloyd George oedd y buasai Cymru yn debycach o gael Dadgysylltiad a breintiau eraill wrth sefyll o'r tu allan i'r