Blaid Ryddfrydol, a bygwth Mr. Gladstone a'i Weinyddiaeth os na chaffai Cymru chwareu teg. Dadl Tom Ellis oedd, yn nghyntaf, na cheid yr oll o'r Aelodau Cymreig i ymuno yn erbyn Gladstone; ac yn ail, y buasai'r ffaith ei fod ef, Ellis, yn y Weinyddiaeth ei hun, ac yn Chwip i'r Llywodraeth, yn rhoi mantais iddo ef ddylanwadu ar Gladstone a'r Cabinet i wneyd yr hyn oedd yn iawn i Gymru. Tueddai Herbert Lewis i fod o'r un farn a Lloyd George, er nad oedd mor bendant. Ar ol hir ymdrafod y cwestiwn yn ei wahanol agweddau, a gweled fod Ellis yn teimlo awydd mawr i dderbyn y cynyg, boddlonodd Lloyd George a Herbert Lewis ei ryddhau ef o'i ymrwymiad iddynt hwy, er na fedrent gymeradwyo ei waith yn derbyn swydd. Felly gwnaed Tom Ellis yn "Junior Whip" yn Ngweinyddiaeth Gladstone; a phan ymneillduodd yr hen arwr ac y cymerodd Arglwydd Rosebery ei le, dyrchafwyd Ellis i fod yn Brif Chwip. Yr oedd hyn yn beth na wnaed erioed o'r blaen. Arferid rhoi'r swydd o Chwip bob amser i wr cyfoethog o deulu urddasol, ac yr oedd meddwl am weled mab i ryw ffermwr bychan yn Nghymru yn gallu gweithredu awdurdod dros filiwnyddion ac urddasolion Prydain yn gyru ias o ddychryn drwy'r holl bendefigaeth. Ond felly y bu. Gwnaeth T. E. Ellis, er mai Cymro tlawd ydoedd, gystal Chwip a'r cyfoethocaf o aelodau'r bendefigaeth a fu erioed yn y swydd uchel hono y chwenychasai goreuwyr y deyrnas ei chael. Cyn pen ychydig fisoedd wedi derbyn o hono y swydd, dylanwadodd Ellis ar Gladstone i ddod i lawr i Gymru, ac yno i
Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/91
Gwedd