Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addaw penodi "Dirprwyaeth y Tir i Gymru" gyda'r amcan o symud achos y cwynion oedd gan ffermwyr Cymru ag yr oedd Lloyd George wedi ymddiofrydu i fynu gweled eu symud. Penodwyd y Ddirprwyaeth; gwnaeth ymchwiliad manwl ac adroddiad maith. Cymeradwyai'r Ddirprwyaeth welliantau pwysig yn Neddfau'r Tir-ond ni chafwyd byth mo honynt. Taflwyd y Rhyddfrydwyr allan yn yr etholiad canlynol (1895), a chladdwyd adroddiad Dirprwyaeth y Tir yn Nghymru gan y Llywodraeth Doriaidd a ddaeth i awdurdod y pryd hwnw, ac ni chafodd hyd y dydd heddyw adgyfodiad gwell.

Yn fuan wedi i Mr. T. E. Ellis ddechreu ar ei swydd fel Prif Chwip i Lywodraeth Rosebery, arweiniodd Mr. Lloyd George dri o'i gydaelodau dros Gymru mewn gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth, sef Mr. D. A. Thomas (Merthyr), Mr. Frank Edwards (Maesyfed), a Mr. Herbert Lewis (Fflint). Gwrthododd y pedwar gydnabod awdurdod eu cyfaill a'u cyd-Genedlaetholwr Tom Ellis, na derbyn ei chwips. Achos y cweryl oedd anfoddogrwydd y pedwar gwrthryfelwr at y dull yr ymddygai'r Llywodraeth at Fesur Dadgysylltiad. Gwrthododd yr Aelodau Cymreig eraill gydweithredu a'r pedwar yn eu gwrthryfel, ond cafodd y gwrthryfelwyr gydymdeimlad a chefnogaeth y wlad.

Gan mai dim ond pedwar wrthryfelodd, a bod mwyafrif y Llywodraeth yn 40, nid oedd berygl yn y byd i'r Llywodraeth oddiwrth y gwrthryfel. Ond, pe y llwyddasai Mr. Lloyd George, fel y dymunai wneyd.