Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y GÂN A GOLLWYD

WRTH fynd heibio'r dydd o'r blaen, sefais i sylwi ar nifer o wartheg yn pori'n braf mewn cae oedd am y clawdd â'r ffordd. Yr oedd yn ddiwrnod tawel o Ragfyr; ond fe daerech bron mai'r Hydref a'i swyn di-ail a lanwai'r tir drwyddo draw, a bod rhan o'r haf hefyd yn dal i loetran, fel petai'n methu â chefnu arnom.

Drwy'r tawelwch torrai swish-swish y pori ar fy nghlyw; a dyna hyfryd yw'r sŵn hwn ond inni ddechrau gwrando arno.

Hoffwn liw'r adlodd, a chredwn fod blas da arno i'r anifeiliaid. Yn sydyn, dyna lais merch yn torri allan i ganu o lofft un o'r tai cyfagos. Yr oedd y ffenestri yn agored, a hawdd oedd clywed y geiriau—hen eiriau hysbys o'r dyddiau gynt :

"Wedi teithio mynyddoedd, llechweddi a chymoedd, a llawer o diroedd blinderus, 'does unlle mor swynol, na man mor ddymunol â chartref bach siriol cysurus. Pan fo'r gwyntoedd yn chwythu, a'r storm yn taranu ei chorn i groesawu y gaeaf, mae nefoedd fy mynwes yn yr hen gornel gynnes, yng nghwmni fy nheulu anwylaf."

Deellais yn union bod y gwartheg yn gwrando ar y llais. Gwyddwn nad oedd â wnelo'r ferch honno ddim â'r fferm; a diau na wyddai hi ddim ychwaith, fod y cae gerllaw, deulu go ddeallus yn gwrando arni'n canu. Dalient i bori bob yn ail a pheidio,—yn union fel yr oedd tinc y llais yn eu swyno.