Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dylwn ddweud nad yr alaw a geir ar y geiriau yn Ceinion y Gan a ganai, eithr alaw arall mwy diweddar, un â'r nodau uchaf yn soniarus odiaeth. Nid wyf yn cofio pwy yw awdur yr alaw dan sylw; ond fe wyddom bawb ohonom, ond odid, mai Mynyddog biau'r geiriau.

Dyna'r gytgan yn ymarllwys eto'n hyfryd dros y tir: "O, fel mae'n dda gen i 'nghartref, hen le bendigedig yw cartref; chwiliwch y byd drwyddo i gyd, 'does unman yn debig i gartref. . .

Sylwais bod un fuwch frith arbennig, yn fwy anesmwyth na'r lleill, ac yn sŵn y gytgan a'r nodau ffenestr uchaf, safodd, a throes ei phen i gyfeiriad y gan wrando'n astud.

Tawodd y llais, aeth hithau ymlaen â'r pori . . . "A phrin mae'r piseri heb siarad. . ." a delorai'r llais drachefn. Tebyg bod y ferch yn brysur gyda rhyw orchwyl neu'i gilydd, a'r gân hon a ddigwyddai ymdonni yn ei chalon ar y pryd, gan ail dorri allan bob yn ail a pheidio, drwy'r ffenestr yn rhyw genlli o fiwsig pur.

Cododd y fuwch frith ei phen drachefn, ac edrychodd y tro hwn i gyfeiriad y gorwel draw. Edrychais innau i'r un cyfeiriad â hi. Gresyn na chawswn wybod beth a redai drwy'i meddwl hi ar y pryd !

Tybed a ymlifai ryw ymsyniad melys drwy ei gwaed—rhywbeth a ddaeth iddi o'r gorffennol pell? Pwy a ŵyr na feddyliai hi ar y munud ei bod yn gweld morwyn lanwedd, piseri gloywon, stôl fach a dôl feillionog?

Peth naturiol a chyffredinol ym myd merched ffermydd yn yr hen amser fyddai canu wrth odro