Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mwynig, Seren, Brithen a Bronwen ac yn y blaen. Tybed a yw'r arferiad prydferth wedi llwyr ddarfod o'r tir?

Y mae lle i ofni nad oes neb heddiw a fedd galon ddigon hapus i fedru canu wrth odro ! A rhaid nad yw'r oes hon yn coelio bod mwy o laeth i'w gael gan fuwch wrth ganu iddi.

Fodd bynnag, peth amheuthun iawn ar ddydd o Ragfyr ydoedd clywed merch yn canu gydag arddeliad wrth ymdrin â gwaith ei thŷ. . . .

Ail-gychwynais yn araf i'm siwrnai, a sŵn y gân 'yn dal i'm dilyn: "Chwiliwch y byd drwyddo i gyd . . ." ac o gyfeiriad y gwrych aur-felyn ym mhen draw'r cae, diaspedai y "Mw" llawnaf a glywais erioed.