Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DEFAID

O'u gwylio'n pori'n y cae mawr gerllaw,
Ymglymai fy serch amdanynt bob un,
Yr oeddynt mor fodlon a theg eu llun,
Heb gi i'w hannos—na helynt na braw;
Rhyw nefoedd fach wen oedd y cae i'r rhain,
A llament i gwrdd â'r bugail a'i grwc,
Gan adael y blewyn glas pêr, i'w lwc,—
Ac ni warafunid i ieir na brain
Pan lenwid y cafnau â cheirch yn llawn;
Ymdyrrent yn glos i'r wledd mewn boddhad;
Nid hwy ond y fi a welai law brad
Yn rhywle o'r golwg yn brysur iawn
Yn hogi, yn hogi'r min ar ei lafn,
A'i lygad ar dangnefeddwyr y cafn.



CRIAFOL

AWST â'i wenau yn estyn—o'i gariad
Ei gyrains coch dillyn;
Rhyw doreth i'r aderyn,
Delw o'r haf rhwng dail yr ynn.