Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DAFAD AC OEN

CLYWAIS ffermwr yn dweud rywdro mai sgolars ofnadwy yw defaid. Ac yn ddiamau, fe wyddai ef yn bur dda am beth y siaradai. Tebyg i'w clyfrwch fod yn drech nag ef drocon lawer, a'i wylltio allan o bob rheswm o'r herwydd.

Ymhlith y sgolars hyn, fel y digwydd hefyd, ymhlith dynion, fe geir rhai ohonynt yn dewis ffordd fawr yn hytrach na'r porfeydd gwelltog a fwriadwyd iddynt. Unwaith y cânt flas ar ryddid rhamantus a rhyfygus y dragwyddol heol ni fedrant ddygymod mwy â llonyddwch hyfryd y cae glas a'i arogl pêr. Ac y mae hynny'n beth i synnu ato.

Dolur llygad i bawb ystyriol ydyw dafad fedlemllyd yr olwg—a'i chnu gwlân yn hongian yn grybibion amdani—ar hyd y stryd yn ceisio osgoi rhyw berygl parhaus,—un ai'r cerbydau dirif a'u trwst aflafar, neu blant, a hoffant ei hannos i rywle, ni waeth i ba le.

Diddorol oedd sylwi ar un o'r crwydriaid hyn y dydd o'r blaen yn ceisio dianc rhag rhyw grwtyn bach a redai ar ei hôl â rhoden yn ei law. Hawdd gweld na faliai hi fawr yn yr erlidiwr bach. Croesodd уг heol dan ei drwyn i gael cno ar y dant-y-llew a ysmiciai arni allan o rigol carreg mewn talcen tŷ.

Y mae hi beunydd â'i llygad yn ei phen lle y bo tamaid blasus, ac y mae ei menter yn ddi-ben-draw. Chwaer i hon a aeth â'i hoen bach gwyn allan o'r cae