Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un noson drwy fwlch pur gyfyng yn y gwrych. Gwyddai'n dda ei fod yn ddigon cryf erbyn hyn i'w dilyn hi i'r priffyrdd; ac ymaeth a hwy. Dilyn ei fam yn ufudd a wnai'r oen, wrth gwrs, ac ni chŵynodd, er iddo deimlo y rhywbeth caled hwnnw, sef y ffordd a'i cherrig a'i thar, yn bur gas i'w draed, rhagor y cac esmwyth, glân, a adawodd. Ond ni fedrai ofyn i'w fam i droi'n ôl. Rhaid oedd ei dilyn.

I ble'r oedd hi'n mynd? Ni wyddai ef ddim. Ond fe wyddai ei fam yn burion fod pobl yn byw yn y stryd fawr honno, a bod yna siawns ardderchog am dameidiau blasus o'u gerddi; hynny ydyw, os byddai'r llidiardau yn gil—agored. Ac yr oedd ambell wal rhwng yr ardd a'r ffordd y medrai hi roi naid drosti mor hawdd ag y medr bugail chwibanu.

Ni fedrai ddisgwyl i'r oen, y tro cyntaf fel hyn, ei dilyn dros y waliau; ond pan geid llidiart yn agored fe gai'r bychan yntau fynediad helaeth i mewn wrth ei hochr. A chafwyd gryn rwyddineb y noson hon i fynd i erddi'r stryd fawr i'w helpu eu hunain, cans 'roedd pawb yn eu gwlâu erbyn hyn.

Melys ryfeddol ydoedd blagur cynnar y coed rhosynnau i ddannedd y fam; a swcrodd yr oen i'w profi. Cydsyniodd yntau eu bod yn dda gan gnoi ei gil yn ddel. Ni adawyd gymaint ag un ddeilen a oedd o fewn cyrraedd, ar ôl. Croeso i bobl y tŷ o'r brigau a'r pigau.

Wedi diwallu eu blys â phob llysieuyn a ffansïent, aeth y fam yn ei blaen am heolydd cefn stryd ar ôl stryd. Rhoddai naid dros wal uchel ambell waith, ac ymdroai am gryn amser gan adael yr oen i ymdaro