Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel y mynnai. Fe âi yntau, druan, yn ei flaen, ac yna yn ei ôl i geiso dod o hyd iddi. Dechreuodd frefu'n dorcalonnus. Ar hynny, rhoes y fam naid ato i'r ffordd, gan ei swcro'n ddistaw bach: "Dilyn dy fam. Mi wn i am erddi eraill haws mynd iddynt; a phaid a brefu fel yna eto, da thi, neu mi godi bobol y tai 'ma ! Fel hyn y cefais i fy nysgu gan fy mam, wyddost, a gwna dithau fel 'rwyf innau'n gwneud."

Oedd, 'roedd llidiart y tŷ pellaf yn gil—agored. Rhywun diofal wedi bod trwyddi'n ddiweddar. Ceid yn yr ardd hon ddigon o laswellt, ond rhywbeth arall a geisiai'r fam. 'Roedd digon o laswellt a llygaid-y-dydd i'w cael yn y caeau. Nipiwyd ychydig ar y planhigyn hwn a'r llysieuyn arall a ddigwyddai fod yma a thraw i'w profi. Rhywfodd nid oedd y fam yn fodlon ar yr hyn a gawsai yn yr ardd hon.

Y broblem nesaf oedd sut i fynd i'r ardd am y terfyn. Gwelwyd fod y tir yn codi bron hyd uchter y wal yn y gongl yng ngwaelod yr ardd. A chydag ychydig o amynedd medrwyd mynd rhwng y wifren bigog a thrwy ddrysi'r mân—goed i'r ochr arall yn weddol hylaw.

Erbyn hyn yr oedd hi'n olau dydd; ac yn fore braf at hynny. Cododd gwraig y tŷ pellaf ond un o'i gwely ac aeth at y ffenestr i symud y llenni.

Rhoes waedd, a dechreuodd dafodi'n enbyd: "Hen ddafad—yr hen sopan—yn yr ardd yn nipio'r goeden falau hynny a fedr hi! Wel, yn wir, y mae peth fel hyn yn ddigon â thorri calon neb!" Llefarodd ribi-di-res o eiriau hallt am ei pherchennog, a sŵn crio yn ei llais.