Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DDRAENEN

UN min nos gweddol braf o fis Mawrth, daeth Nanws yn ôl o'r dref tua'i chartref newydd, â modrwy aur am ei bys. Oedd, yr oedd hi wedi priodi Ifan, ei chefnder, o'r diwedd, serch ei fod o tua thrigain oed, a hithau, rhaid cyfaddef, yn tynnu'n agos at yr un oedran.

Bu Ifan yn weddw am ysbaid o ugain mlynedd; a phetai o heb yr eneth fach a adawyd ar ei ddwylo o'i briodas gyntaf, buasai Nanws ac yntau wedi priodi ers llawer blwyddyn. Ond yr oedd hi'n rhy ofnus neu'n rhy onest i gymryd y ddau efo'i gilydd, ac fe'i hystyrrid gan bawb yn hen ferch gall a solat.

Cryn dipyn o boen a helbul a fu i Ifan oherwydd ei blentyn, Olwen. Ni fedrai gael yr un forwyn i aros yno'n hir. Yr oedd rhywbeth yn anian yr eneth hon a barai i'r merched hyn ei chashau.

Fodd bynnag, cawsai Olwen ddigon o foethau, a gormod yn wir, gan ei hewythr Dafydd, brawd ei thad, a drigai gyda hwy,—hen lanc crintachlyd yng ngolwg pawb, bron. Ond fel y digwydd, fe wirionodd yr hen lanc yn lân ar blentyn ffan, ei frawd; a phan fu farw, gadawodd tua mil o bunnoedd iddi hi ar ei ôl. Ni chafodd neb arall o'r teulu yr un ffyrling.

Wedi dyfod i'w hoed a chael yr eiddo hwn i'w llaw, priododd Olwen gyda llanc o Sais taclus a golygus, a arferai ddyfod i'r ardal bob haf ar ei wyliau, a dywedai pawb ei bod yn eneth lwcus dros ben.