Tudalen:Rhobat Wyn.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac erbyn hyn, yr oedd Olwen a'i gŵr wedi cartrefu yn Llundain ers dros flwyddyn, ac yn hapus a llwyddiannus iawn eu byd yn ôl tyb pawb. A dyna sut y medrodd Ifan berswadio Nanws o'r diwedd i'w briodi.

Yr oedd ganddi hi geiniog reit ddel wrth gefn, wedi cynilo a hel am lawer blwyddyn; ac nid oedd yntau yn dlawd o bell ffordd. Sgwrsiai'r ddau yn ddifyr wrth bwrdd swper noson eu priodas, ac edrychent ymlaen yn obeithiol am lawer blwyddyn dawel a dedwydd efo'i gilydd.

"Bydd yn hen bryd imi fynd ati hi i spring clinio'r tŷ 'ma rŵan, rhag ofn iddynt ddod yma dros y Pasg," meddai Nanws wrth sôn am Olwen a'i gŵr. "Grym annwyl! paid â sôn am ddechrau tynnu'r tŷ 'maʼn dy ben ar ddechrau ein mis mêl, fel hyn !"— meddai Ifan.

"Hyh!" oedd yr ateb,—"mis mêl, yn wir !—'chefais i mo 'ngeni i lawer o fêl. . ."

Torrwyd ar y sgwrs. Pwy a ddaeth i'r tŷ fel ergyd o wn, ond Olwen, wedi ei gwisgo â gwychder Llundain o'i chorun i'w sawdl.

"Helo! modryb Nanws, pwy fuasai'n disgwyl eich gweld chi yma? Sut ydych chi?"

"'Rwyf yn burion, wir," oedd ateb y fodryb. "A sut ydych chi, Nhad?"

"Ond o ble y doist ti mor sydyn â hyn?" gofynnai'r tad.

"O, peidiwch a dechrau fy holi rŵan, 'rwyf bron disgyn eisiau cwpaned o de," meddai hithau.