Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

G. Beth a wnaeth Iesu Grist yn y byd?

A. Byw a marw drosom.

G, Ymha le y ganed Iesu Grist?

A. Yn Bethlehem.

G. Pwy oedd ei fam ef?

A. Mair.

G. Ymha le y bu Iesu Grist farw?

A. Ar Galfaria.

G. A gladdwyd ef?

A. Do; mewe bedd.

G. Ai yn y hbedd y mae efe etto?

A. Nage; efe a gyfododd,

G. Ymha le y mae efe yn awr?

A. Yn y nefoedd.

G. Beth yw cyflog pechod?

A. Marwolaeth.

G. Ydyw Duw yn maddeu pechod!

A. Ydyw.

G. Er mwyn pwy y mae efe yn maddeu?

A. Er mwyn Iesu Grist.