Gwirwyd y dudalen hon
G. A oes modd i ni fod yn happus heb gael maddeu ein pechod?
A. Nac oes.
G. Ymha le mae Duw ya maddeu pechod?
A. Yn y byd hwn.
DOSPARTH VI
G. I ba beth y'ch gwnaed chwi?
A. I wasanaethu Duw.
G. A ddylai plant wasanaethu Duw?
A. Dylai pawb.
G. Pwy sy'n rhoddi pob peth i ni?
A. Duw sy'n rhoddi pob peth i bawb
G. Oni ddylem ni ddiolch i Dduw am bob peth?
A. Dylem.
G. A ddylem ni weddio ar Dduw?
A. Dylem.
G. Am ba beth y dylem weddio arno?
A. Am faddeuant o'n pechodau.