Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

6. A ddylem ni weddio am ddim arall?

A. Dylem weddio am ras i'n gwneud yn blant da, ac am bob peth fo arnom eisiau.

G. A ydyw yn hawdd gan Dduw i roi i ni y pethi a ofynom?

A. Ydyw i bawb, ac heb ddannod.

G. Yn enw pwy y dylem weddio?

A. Yn enw Iesu Grist.

G. Pwy sy'n gweddio?

A. Pob duwiol a weddia.

DOSPARTH VII

G. A fydd dydd barn?

A. Bydd.

G. Pa bryd y bydd dydd barn?

A. Yn niwedd y byd.

G. Pwy fydd y barnwr?

A. Iesu Grist.

G. Pwy gaiff eu barnu?

A. Pawb.