Gwirwyd y dudalen hon
G. A gawn ni ein barnu?
A. Cawn.
G. Yn ol pa beth y bernir ni?
A. Yn ol ein gweithredoedd.
G. Wrth ba reol y bernir ni?
A. Wrth reol Gair Duw.
G. Y'mha le y mae gair Duw?
A. Yn y Bibl.
G. A ddylem ni ddysgu darllen y Bibl?
A. Dylem.
G. Beth ydyw edifeirwch?
A. Cyfnewidiad y meddwl.
G. Pa fath feddwl sy genym wrth natur?
A. Meddwl drwg.
G. Peth ydyw ffydd?
A. Credu.
G. Beth sydd i ni gredu fel yr achuber ni?
A. Credu yn Iesu Grist.
G A ddylem ni gredu yn Iesu Grist?
A. Dylem bawb.