Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CATECISM O ENWAU

G. Pwy oedd Adda?

A. Y dyn cyntaf, a'n tad ni oll.

G. Pwy oedd Efa?

A. Mam pob dyn byw.

G. Pwy oedd y merthyr cyntaf?

A. Abel.

G. Pwy laddodd ei frawd?

A. Cain.

G. Pwy fu fyw hwyaf?

A. Methusalem.

G. Pwy gadwyd yn yr Arch pan foddwyd y byd?

A. Noa, a'i wraig, ei dri mab, Sem, Cam, Iapheth, a'u tair gwragedd.

G. Pwy oedd y dyn ffyddlonaf?

A. Abraham.