Gwirwyd y dudalen hon
G. Pwy a ymdrechodd â Duw?
A. Iacob.
G. Beth fu ei enw ef wedi hyny?
A. Israel.
G. Pa sawl mab oedd i Iacob?
A. Deuddeg.
G. Pwy oedd y dyn llarieiddiaf?
A Moses.
G. Pwy oedd y cyn calon-galetaf?
A. Pharaoh.
G. Pwy oedd wr wrth fodd calon Duw?
A. Dafydd.
G. Pwy oedd y dyn doethaf?
A. Solomon
G. Pwy oedd y dyn goreu?
A. Iesu Grist.
G. Pwy werthodd Grist?
A. Iudas.
G. Am ba beth y gwerthodd efe ef?
A. Am arian.
G. Beth a ddaeth o hono ef ar ol hyny?