Gwirwyd y dudalen hon
A. Efe a aeth ac a ymgrogodd.
G. Pwy wadodd Grist?
A. Pedr.
G. Beth ddaeth o hono ef ar ol hyny?
A. Efe a wylodd yn chwerw dost.
G, Pwy a farnodd Grist?
A. Pontius Pilat.
G. Pwy a groeshoeliodd Grist?
A. Yr Iuddewon.
G. Pwy oedd y dysgybl arwyl?
A. Ioan.
G. O bwy y bwriodd Crist allan gythreuliaid?
A. O Mair Magdalen.
G. Pwy a adawodd Grist o gariad at y byd?
A. Demas.
G. Pwy a ysgrifenodd yr ysgrythyrau?
A. Dynion sanctaidd Duw megys y cynhyrfwyd hwynt gan yr Ypryd Glan.