Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

G. Pa sawl rhan ydyw'r Bibl?

A. Dwy ran.

G. Pa rai ydynt?

A. Yr Hen Destament, a'r Testament Newydd.

G. Pwy gasglodd lyfrau yr Hen Destament yn un llyfr?

A. Ezra yr offeiriad.

G. Pwy a orphenodd y Testament Newydd?

A. Ioan y difeinydd.

CG. Beth ydyw bedydd?

A. Golchi â dwfr yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân.

G. Beth y mae hyny yn arwyddo?

A. Bod eisian ein golchi oddiwrth bechod.

G. Beth ydyw swpper yr Arglwydd?

A. Bwyta bara, ac yfed gwin, yn goffadwriaeth o farwolaeth Crist.