Gwirwyd y dudalen hon
G. Beth oedd ei oed ef pan y'i bedyddiwyd?
A. Deng mlwydd ar hugain.
G. Pa sawl disgybl oedd ganddo?
A. Deuddeg.
G. Pa waith roes Iesu Grist iddynt?
A. Pregethu yr efengyl.
G. Beth ydyw yr efengyl?
4. Newydd da am ddyfodiad Iesu Grist i'r byd i gadw pechaduriaid.
G. Ai pechaduriaid ydym ni?
A. Ie.
G. A glywsom ni bregethu yr efengyl?
A. Do.
G. Beth ddylem ni wneud â'r efengyl?
A. Ei chredu a'i derbyn.
G. Beth yw effaith credu yr efengyl?
A. Llawenydd mawr, a chariad at Grist.
G. Beth yw ffrwyth cariad at Grist?