Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A, Cadw ei orchymynion.

G. Pa rai ydynt?

A. Yn fyr:

1. Na foed it' dduwian ond myfi.
2. Un eilun nac addola di.
3. Nac ofer gymmer enw Duw.
4. Na lygra'r sabboth, sanctaidd yw
3. Rho i'th rieni barch a bri.
8. Llofruddiaeth gwaedlyd gochel di
7. Ymgadw rhag yr aflan waith.
8. A gwylia rhag lladrata chwaith
9. Gochel fod yn ddyn celwyddog.
10. Na chwennycb eiddo dy gymmydog


Eu Swm Hwynt.

A'th enaid oll câr Dduw, o ddyn,
A phob cymmydog fel dy hun.


Rheol Euraid.

Boed dy ymddygiad at bob dyn
Fel y dymunit it' dy hun,
Na wna, pa ddywed wrth un dyn,
Y peth pa chym'rit ti dy hun,