Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYNGHORION TAD I'W BLANT

GWRANDEWCH, blant, addysg tad; ac erglywch i ddysgu deall. Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda; na wrthodwch fy nghyfraith. Canys yr oeddwn yn fab i'm tad, yn dyner ac yn anwyl yn golwg fy mam. Efe a'm dysgai, ac a ddywedai wrthyf, dalied dy galon fy ngeiriau; cadw fy gorchymynion, a bydd fyw. Cais ddoethineb, cais ddeall : penaf peth yw doethineb. Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd, deall da sy gan y rhai a'i hofnant ef. Ofn yr Arglwydd ydyw doethineb, a chilio oddiwrth ddrwg sydd ddeall. Cais ddoethineb, ac a'th holl gyfoeth cais ddeall. Hi a'th ddwg di i anrhydedd os cofleidi hi. Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir. Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd