Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffordd y drygionus. Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddiwrth hi a dos heibio. Cenys ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch, ni wwyddant wrth ba beth y tramgwyddant. Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwy fwy hyd ganol dydd.

Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctyd, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesấu o'r blynyddau yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim dyddanwch ynddynt.

YMADRODDION DETHOLEDIG.

Y mae plant yn meirw! am hyny fe ddylai plant fod yn barod i farw.

Mae enaid gan blentyn; am hyny y rhieni na ofalant am eneidiau eu plant, ydynt yn esgeuluso eu rhan anfarwol hwynt.