Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid oes neb yn medru heb eu dysgu; am hyny, fe ddylid dysgu yr hyn sy dda i bawb.

Nid yw yn gywilydd i neb fod yn dysgu : ond y mae yn gywilydd i bawb fod heb wybodaeth.

Y cam cyntaf o wybodaeth ydyw gwybod ein bod heb wybod, a'r cam olaf ydyw gwybod fod ychwaneg i'w wybod nag a allwn ni wybod byth.

Y CREDO.

CREDAF yn Nuw Dad holl-gyfoethog, creawdwr nef a daear.

Ac yn Iesu Grist ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; yr hwn a gaed trwy yr Yspryd Glân; a aned o Fair Forwyn; a ddyoddefodd dan Pontius Pilatus; a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; a ddisgynodd i uffern; y trydydd dydd cyfododd o feirw; a esgynodd i'r