Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nefoedd : ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Duw Dad holl-gyfoethog; oddi yno y daw i farnu byw a meirw.

Credaf yn yr Yspryd Glân; Yr eglwys lân gatholig; cymun y saint maddeuant pechodau; adgyfodiad y cnawd, a'r bywyd tragywyddol— Amen.

GWEDDI YR ARGLWYDD,

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
Sancteiddier dy enw.
Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd.—Amen.