Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWEDDI YN Y BORE

O Arglwydd Dduw trugarog a graslawn: da ydwyt, a daionus a fuost i mi y nos a aeth heibio, a phob amser. Caniata faddeu fy holl pechodau i'th erbyn, a dyro ras i mi ith garu , a'th gwasanaethu y dydd hwn, modd y delwyf yn y diwedd ith deyrnas nefol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. - Amen.

UN ARALL

Arglwydd mawr, cadw ac achub fi y dydd hwn, ynghyd a phob un om teulu , rhag pob pechod; rho i mi nerth a doethineb i ogoneddu dy enw y’mhob amgylchiad. O maddeu fy holl bechod, nertha fi i orchfygu pob gelyn trwy waed yr Oen . Edrych yn raslawn ar bawb sy mewn cyfyngder, a derbyn fy niolch am dy holl ddaioni yn gymmeradwy yn Iesu Grist.—Amen .