Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWEDDI Y NOS

O Arglwydd , mawr fu dy drugaredd ti ag ataf y dydd a aeth heibio, a phob amser ; cynnorthwya fi i roddi fy hunan i’th gadwraeth y nos hon. Derbyn fi i'th ofal tadol, a gwylia o amgylch fy ngorweddfa, fel y byddwyf ddiogel rhag pob perygl , trwy Iesu Grist ein Prynwr a'n Gwaredwr.—Amen


UN ARALL

O Dduw trugarog , maddeu i mi fy holl ynfydrwydd y dydd bwn aeth haibio; bydd yn Geidwad ac yn Noddfa i mi y nos hon. O Arglwydd, amgylcha fi a'm teulu, a'n holl eiddo, a'th ofal tadol a'th garas daru allu; bydd yn gymborth hawdd dy gael i bawb sydd mewn cyfyngder, a derbyn fi yn gymmeradwy, gan faddeu fy holl anwiredd. yn haeddiant Iesu Grist ein Harglwydd.—Amen