Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y
CATECISM CYNTAF, &c.

DOSPARTH I.

Gof. Pwy a'ch gwnaeth chwi ?

ATTEB. Duw.

G. Beth yw Duw?

A. Yspryd.

G. Pa sawl Duw sydd?

A. Un.

G. A ydyw Duw yn dragywyddol?

A. Ydyw ; heb ddechreu na diwedd.

G. Ymha le y mae Duw?

A. Yn y nefoedd.

G. A ydyw efe yn un lle arall?

A. Ydyw; yn mhob man.

G. A ydyw Duw yn gwybod pob peth?

A. Ydyw .

G. A all Duw wneud y peth a fyno?

A. Gall.