Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

G. A ydyw Duw yn gyfiawn?

A. Ydyw ; yn gyfiawn a sanctaidd.

G. A ydyw Duw yn ddigyfnewid?

A. Ydyw, yr un fath bob amser.

G. Ai Duw biau bob peth?

A. Ie, yn y nefoedd a'r ddaear.

G. A ydyw Duw yn dda?

A. Ydyw; da yw Duw i bawb.

DOSPARTH II

G. Ai Duw greodd bob peth?

A. Ie.

G. Beth ydyw creu?

A. Gwneud peth o ddim.

G. Ai o ddim y gwnaeth Duw bob peth?

A. Ie

G. A all neb arall wneud peth o ddim?

A. Na all