Gwirwyd y dudalen hon
G. O ba beth y gwnaeth Duw y ddaear?
A. O ddim .
G. O ba beth y gwnaeth efe ddyn?
A. O bridd y ddaear.
G. Mewn pa faint o amser y gwnaeth efe bob peth?
A. Mewn chwe diwrnod.
G. Pa beth a wnaeth Duw y seithfed dydd?
A. Gorphwys arno a'i sancteiddio ef.
G. A ddylem ninnau wneuthur yr un modd?
A. Dylem.
DOSPARTH III
G. Pwy oedd y dyn cyntaf?
A. Adda.
G. Pwy oedd y wraig syntaf?
A. Efa.
G. Pa sawl rhan sydd mewn dyn?
A. Dwy ran.