Tudalen:Rhodd Mam i w Phlentyn yn cynnwys y Cate.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

G. Pa rai ydynt?

A, Corph ac epaid.

G. O ba beth y gwnaeth efe gorph dyn?

A. O bridd y ddaear.

G. Beth ydyw enaid dyn?

A. Yspryd i fyw byth.

G. A oes eneidiau gan blant?

A. Oes gan bawb.

G. Y'mha le y dodwyd Adda ac Efa wedi eu creu?

A. Y'ngardd Eden.

G. Ai yno y maent etto?

A. Nage.

G. Pwy a'u gyrodd oddiyno?

A. Duw.

G. Am ba beth y gyrodd Duw hwynt oddiyno?

A. Am bechu i'w erbyn.

G. Beth ydyw pechod?

A. Anghyfraith.

G. Pwy roes gyfraith i ddyn?

A, Duw.