Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD I

Y MAWR A ' R BACH YN Y
GREADIGAETH

i. Y Mawr

YN ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, y mae'n gwybodaeth wedi cynyddu'n ddirfawr mewn dau gyfeiriad cyferbyn. Ar un llaw y mae seryddwyr, trwy eu dyfeisiau cywrain i blymio i ddyfnderoedd y ffurfafen, wedi ennill profion newydd o fawredd annirnad y Greadigaeth; ac ar y llaw arall, y mae gwyddonwyr, trwy eu hymchwil ynglŷn â chyfansoddiad yr atomau, wedi profi bod gronynau (sef electronau) annisgrifiadwy o fychan—miloedd o weithiau'n llai na'r atom lleiaf.

Bwriadaf yn y bennod hon sôn yn unig am y Mawr a cheisio dywedyd ychydig ar y syniadau diweddaraf am ehangder a maint byd y sêr.

Y mae Dyn (am a wyddom ni) yn gyfyngedig i'r ddaear hon, un o naw planed yn troi o amgylch seren fechan —yr Haul. Ond ni ddywedaf ddim yn y bennod hon am beth mor lleol â'r teulu bach hwn—Cysawd yr Haul. Afresymol fyddai sôn am John Jones a'i deulu pan fôm yn ymdrin â dynoliaeth yn gyffredinol. Yr un mor afresymol fyddai sôn am yr Haul a'i deulu a'r cyfanfyd yn destun ein hymddiddan ar hyn o bryd.

Tybiwn, gan hynny, fod y darllenydd allan yn yr awyr agored ar noson glir, serennog, ddileuad. Fe