Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd trwy rym disgyrchiant, ac effaith hyn yw eu bod yn dechrau troi yn araf deg ar eu hechel.

Rhoddwn sylw yn awr i un o'r nifylau hyn. Fel y mae yn ymgrebachu'n raddol y mae'n troi ar ei echel yn gyflymach, gyflymach, a chanlyniad hyn yw bod y nifwl, yn lle aros yn belen gron, yn raddol yn cymryd ffurf olwyn. Ymddengys y nifwl ar ôl oesau meithion fel cwmwl gwyn golau gydag amryw o ganghennau fel pe'n ymdroelli o'i amgylch. Nifwl troellog (spiral nebula) yw'r enw a roddir iddo yn y cyflwr hwn. Ac y mae miloedd ohonynt i'w canfod yn yr wybren trwy gyfrwng y telesgop. [Gwêl darlun I, II, III, IV.]

Genir Haul

Y bennod nesaf yng ngyrfa'r nifwl yw ei fod trwy ymgrebachu ymhellach yn ymrannu'n filoedd o bwyntiau golau, hynny yw yn heuliau^ gan ffurfio clwstwr 0 sêr ar wahân. Canfyddir gyda'r telesgop esiamplau lawer o glystyrau sêr. Dyna'n wir yw'r Llwybr Llaethog. Ac nid oes unrhyw amheuaeth nad yw yr haul yn aelod o'r clwstwr mawreddog hwn o sêr, a'i fod wedi ei eni mewn nifwl troellog gyda miliynau eraill o sêr yn y modd a eglurwyd.

Dilynwn yn awr hanes pellach yr haul. Pan ddechreuodd ei yrfa fel seren ar wahân yn y clwstwr sêr, yr oedd ei faintioli gannoedd o weithiau yn fwy, a'i ddwyster lawer iawn yn llai, nag erbyn hyn. Ond cymharol oer ydoedd ef y pryd hynny, ac felly (pe gallasai llygad dynol ei ganfod) ymddangosai yn gochboeth ac nid yn wynias. Esiampl dda o seren yn y