Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r haul. (Sylwer gyda llaw ar y gwahaniaeth hanfodol hwn rhwng goleuni a sŵn.)

Hawdd dangos na ellir trosglwyddo sŵn ond trwy gyfrwng rhyw sylwedd materol, megis awyr. Gosoder cloc-larwm ar sypyn o wlanen dew mewn llestr gwydr caeëdig. Pan fo'r llestr yn llawn o awyr, clywir y gloch yn seinio o'i mewn yn berffaith eglur, ond wedi sugno'r awyr ohoni yn llwyr ni chlywir y sŵn lleiaf er gweled tafod y gloch yn parhau i guro'n egnïol.

Nid ydym yn bwriadu awgrymu mai awyr yn unig a all drosglwyddo sŵn. Trosglwyddir ef gyda rhwyddineb mawr trwy sylweddau eraill, megis dŵr, haearn a phren. Trwy osod y glust ar un pen i fwrdd pren hir, clywir yn eglur iawn sŵn curiadau oriawr ar y pen arall, yn fwy eglur o lawer nag y gwneir pan nad yw'r glust yn cyffwrdd â'r bwrdd. Gafaeler hefyd mewn oriawr â'r dannedd. Er cau'r clustiau â'r bysedd, eto clywir sŵn y curiadau yn hynod o glir, yr hyn sydd yn profi bod y dannedd ac esgyrn y pen yn gallu trosglwyddo tonnau sŵn gyda mwy o rwyddineb nag y gall sylwedd tenau, ysgafn, megis awyr.

Yr ydym eisoes wedi galw sylw at un gwahaniaeth pwysig rhwng goleuni a sŵn, sef gallu goleuni i deithio trwy wagle, yr hyn na all sŵn ei wneuthur. Y mae gwahaniaeth pwysig arall rhwng y ddau ddylanwad hyn, sef mewn cyflymder. Mae'n wir fod sŵn yn teithio trwy'r awyr yn gymharol gyflym, tua chwarter milltir mewn un eiliad. (Rhywbeth tebyg i hyn yw cyflymder bwled.) Ond fe deithia goleuni 186,000 o filltiroedd mewn eiliad, yr hyn sydd yn gyfartal ag amgylchu'r ddaear seithwaith yn yr ysbaid byr o un eiliad. Hyn a rydd