Prawfddarllenwyd y dudalen hon
berffaith i seiniau cyffredin y llais. Y mae'r hanesyn hwn yn enghraifft dda o'r ffaith fod terfyn uchaf y clyw yn graddol ddisgyn fel y mae henaint yn agosáu. A chyda llaw, diddorol yw sylwi nad â'i lais y cân y ceiliog rhedyn ond â'i goesau! Oblegid trwy rwbio ei goesau danheddog yn ei gilydd y cynhyrcha'r creadur bychan hwn ei sain, ac y sieryd â'i gyfeillion!