Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bydd. Ond y mae gwahaniaeth pwysig rhwng yr esiampl hon a'r un flaenorol (C a C#). Ni all y glust ddilyn yr ysgogiadau hyn yng nghryfder y sŵn pan fônt mor gyflym â 240 mewn eiliad, ac felly ni chynhyrchir unrhyw effaith anhyfryd ar y glust. Yn hytrach y mae'r ddau nodyn hyn gyda'i gilydd yn ffurfio cytgord neilltuol o swynol fel y gŵyr y darllenydd yn dda.

Er mwyn pwysleisio'r egwyddor hon—fod anghytgord i'w briodoli i beats i ysgogiadau yn nerth y sŵn, caniataer i mi ddywedyd gair ar effaith debyg ynglŷn â'r llygad.

Tybier ein bod mewn ystafell dywyll, a bod llusern drydan yn taflu pelydr o oleuni cryf a llachar ar y pared gwyn. Tra erys y goleuni yn sefydlog, gallwn syllu arno heb flinder i'r llygad, ond os trefnir i'r goleuni fynd a dod bump o weithiau, dyweder, mewn eiliad, yna blin ac annymunol iawn yw edrych ar y pared. (Tebyg yw hyn i effaith doh a de gyda'i gilydd ar y glust.) Os trefnir i'r goleuni fynd a dod 20 neu 30 o weithiau mewn eiliad, yna nid yw effaith un fflach wedi diflannu cyn dyfod yr un nesaf, ac felly ni chenfydd y llygaid yr ysbaid byr o dywyllwch rhwng y fflachiadau. Y mae'r llewych ar y pared yn ymddangos yn awr yn hollol ddidor, ac o ganlyniad, nid yw'n flin i'r llygad syllu arno. Nid rhaid dywedyd mai hon yw'r egwyddor sydd wrth wraidd y "darluniau byw " yn y cinema.