Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

godi'r bys i atal sain C. Fe sylwir bod C' yn seinio'n gryf er nad yw wedi ei daro. Y mae wedi ei gynhyrfu (yn rhinwedd egwyddor cyd-ysgogiad a eglurwyd yn y bennod flaenorol) gan y sain C' oedd yn gymysg â'r nodyn C a drawyd. Eto pwyso i lawr yn ofalus a "distaw" y nodyn G', a tharo C drachefn amryw weithiau yn staccato. Ceir clywed G' yn seinio. Neu os mynnir, pwyso i lawr yn ddistaw yr holl nodau C', G', C'', E'', G'', ac yna daro C yn gryf amryw weithiau. Ar ôl atal sain C clywir y pum nodyn uchod yn seinio gyda'i gilydd gan ffurfio cord Harminaidd. Fe brofa hyn y gosodiad.

Gyda llaw, fe wêl y darllenydd yn awr y rheswm paham y mae pwyso i lawr y pedal de yn cryfhau sŵn y piano. Tybia llawer mai amcan y pedal de yw (trwy godi'r dampers} caniatáu i'r llinynnau barhai i ysgogi ar ôl codi'r bysedd oddi ar y nodau (hynny yw, legato) ond nid yw'r eglurhad yna yn gyflawn. Pan drewir cord yn y bas, yna, yn rhinwedd yr hyn a ddywedwyd uchod, y mae amryw o'r llinynnau yn y trebl hefyd yn dechrau seinio trwy eu bod yn cyd-ysgogi â'r cytseiniaid yn y nodau yn y bas. Oherwydd hynny, y mae'r cord nid yn unig yn cael ei gryfhau ond hefyd yn cael ei gyfoethogi a'i brydferthu.