Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gofynnodd am lymaid. Ac yn lle aros ei dro am wlith, fel pawb arall, beth a wnaeth ond cymryd poer y gog oddiar ddeilen yn ymyl, a'i yfed. A dyna a wnaeth y drwg. Gwyddoch fod poer y gog â'i hanner yn wynt. Byth wedyn ni wnai diod y tro i'r Llotyn, os na byddai digon o wynt ynddi. O'r diwedd aeth i beidio ag yfed dim ond gwynt, ac ar ambell adeg meddwai'n gorn arno. Caffai'r clwy hwn o yfed gwynt weithiau nes methu â pheidio; ac yfed, ac yfed a wnâi fel na wyddai ymhle yr ydoedd, na sut i gerdded. A gwae bawb a ddeuai i'w gyrraedd yr adeg honno. Gorweddai ar lawr, a breuddwydiai mai ef oedd brenin y byd i gyd, a bod pawb yn weision a morynion iddo. A'u gwaith oedd dyfod, bob un yn ei dro, heibio iddo, i'w ganmol, a gwneuthur yr hyn a ddymunai ef, heb feiddio barnu'n wahanol iddo. Fe'i teimlai ei hun yn ddifyr iawn yn y cyflwr hwn, ac ymddengys mai'r teimlad brafiaf a fu erioed yw teimlad un wedi meddwi ar wynt. Ond y gwaethaf oedd ei fod yn gwneuthur pawb arall yn wahanol. Nid oedd obaith i neb fod yn ddifyr arno pan fyddai'r Llotyn Mawr wedi meddwi, os na fyddai wedi meddwi mor drwm fel na fedrai symud na bys na bawd, na theimlo dim oddiwrtho'i hun, ac y gorweddai'n dawel a bodlon i gysgu. Eithr ni theimlai neb yn ddiogel hyd yn oed yr adeg honno, canys byddai wedi chwyddo allan o bob maint, a'r perygl fyddai iddo ffrwydro.