Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd yn hyn i'w gael i wneuthur hynny. Ni chwysa wrth weithio, canys nid oes asgwrn cefn ganddo. A llwydda creaduriaid diasgwrn cefn i fyw'n rhyfedd heb orfod gweithio digon i chwysu, yn bryfed a dynion, ebe Shonto'r Coed. Nid oedd wiw i'r tywysog ddyfod i fyw ar y ddaear ond o dan yr amodau hyn, heb fod mewn perygl bywyd oddiwrth y Llotyn Mawr. Nid oedd dim iddo ei wneuthur felly ond cartrefu yn y lleuad nes i rywun ddyfod ar draws chwys pryf genwair. A dyna sut y daeth un o dywysogion y Tylwyth Teg yn Rhys Llwyd y Lleuad, ac yn gyfaill i Ddic a Moses. Am y baich drain, rhywun wedi camddeall y stori a ddechreuodd ddywedyd bod y baich gydag ef yn y lleuad. Ar chwâl yn y greadigaeth y mae hwnnw, fel y deuwch i weled drosoch eich hunain bob yn dipyn. Ond rhaid oedd i ddyn y lleuad aros ar y lleuad am ddwy fil o flynyddoedd i ddifa'r aroglau, canys am bythefnos o bob mis y rhewa hi yno. Felly, rhaid oedd aros dwy fil o flynyddoedd i gael un fil o rew. A hynny i gyd o achos y Llotyn Mawr. Deuai, fodd bynnag, i'r ddaear ar ei dro, ar noson gannaid oleu leuad, pan fyddai'r Llotyn Mawr wedi meddwi ar wynt yn chwil gorn ulw, yn rhy feddw hyd yn oed i arogli. A rhoddid arwydd o hynny iddo gan Shonto ei frawd.

Dyna'r stori y soniai Shonto a dyn y lleuad amdani. Ac wedi ei thrin eisteddent yn ddistaw a syn i wylio'r tamaid du ar yr haul yn cynhyddu, cynhyddu, o hyd.