Aeth y bechgyn i chwarae fel y gorchmynnwyd iddynt, ac at y siglen â hwy. Eithr er eu syndod nid oedd y siglen yno, dim ond rhes hir o gerryg ar lawr yn cyrraedd o fynydd i fynydd,—yr oedd yr haul wedi meirioli'r poer.
Eisteddasant am ymgom,—
"Wel," ebe Moses wrth Ddic, "'does gen i ddim eisio bod yma am nos arall. Mi dorrwn fy nghalon tase raid imi fynd drwy un arall."
"Fase'r hen ddyn ddim yn mynd â ni'n ôl, tybed?" ebe Dic, "ond wn i ddim chwaith. Digon o waith, o achos mae rhwfun fel hyn, wel di, yn leicio cympeini. Ac mae o 'n bur siwr ohonon ni rwan."
"'Doedd hi'n dda," ebe Moses, "bod o wedi rhoi'r fale lleuad inni cyn dwad yma, neu mi fasen wedi rhewi'n stiff yn ystod y nos ene. A gobeithio nad oedd o ddim yn ei le pan ddeydodd o eu bod nhw'n dechre colli eu dylanwad."
"Rhewi'n stiff?" ebe Dic, "gwaeth o lawer, was. Mi fasen wedi rhewi'n ddigon caled i'r hen frawd neud pyst llidiard ohonon ni, ac mi chwyse hyd yn oed yn yr oerfel hwnnw wrth dreio curo bache i mewn i ni."
"Mi dy goelia di'n hawdd," ebe Moses, "ond mae tipyn o amser cyn iddi hi ddwad yn nos eto."
Oes," ebe Dic, "ond rhosa di, mae hi'n rhyw dwllu rwan, a 'does dim cwmwl yn yr awyr i fod yma chwaith."