Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XII

"O! TYRED YN OL"

Bu Dic a Moses yng nghwmni Shonto'r Coed mor hir y tro hwn, fel yr ofnaf iddo ddylanwadu'n anffafriol arnynt. Nid wyf felly'n mynd yn gyfrifol tros ddywedyd bod y rhan hon o'r stori'n hollol gywir, eu hanes yn dyfod yn ôl. Eithr cewch hi'n union fel y cefais i hi ganddynt hwy. Dic, gan mwyaf, oedd yn ei hadrodd.

Sefyll yn eu hunfan y bu Dic a Moses yn hir, ebe hwy, yn ceisio'n ofer lyncu'r lwmp rhyfedd a godai i'w gyddfau, wrth edrych ar y tamaid duwch ar gongl yr haul, a meddwl am bwy oedd yno. O dipyn i beth diflannodd y duwch yn llwyr, ac ni welid mwy ond yr haul yn disgleirio'n danbaid. Edrychodd Dic ar Foses, ac estynnodd ei fys tua'r fan y tybiai fod y ddaear ynddi. Edrychodd Moses arno yntau a nodiodd ei ben, ac edrychasant mor hir i'r rhan honno o'r gwagle nes anghofio pawb a phopeth. Erbyn hyn yr oedd y gwres wedi cynhyddu'n enbyd, nes ei bod yn boethach nag y cofient hi erioed ar wyneb y ddaear. Gan faint y gwres gorweddodd Dic ar ei hyd, â'i benelinoedd ar lawr, a'i ên rhwng ei ddwylo, ac edrychodd i fyny tua'r ddaear, a gwnaeth Moses yr un peth. Ac felly y buont yn hir, yn edrych i fyny, ar eu hyd ar lawr, a