Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth syllu ar y duwch, a meddwl mai yn rhywle yn y gwagle, draw acw, yr oedd y pethau goleuaf oll iddynt hwy,—y ddaear a'i phobl oll, a'u cartrefi.

"Be mae ein tade ni a'n mame ni'n ei neud rwan, tybed?" ebe Moses.

"Os yden nhw ar ochor y nos," ebe Dic, "yn eu gwlâu y mae nhw,—hwyrach yn breuddwydio amdanon ni, a methu â gwybod yn lle ryden ni. Mi garwn i gael rhyw gipolwg ar y ddaear ei hun, hefyd, yn lle y twllwch acw."

Edrychasant ar y tywyllwch yn hir wedyn, heb ddywedyd dim. Ie, yn rhywle yn y gwagle, draw acw, rhyngddynt â'r haul, yr oedd eu tadau a'u mamau. A mwy na hynny, i Foses, yno yr oedd yr eneth fach honno a welodd yn ei gwsg, ag ôl cyflaith ar ei genau, yn canu "O! tyred yn ôl." "Pam na ddowch chi efo ni'n ôl i'r ddaear, yn lle cartrefu yn yr hen leuad yma, Rhys Llwyd? ebe Moses wrth y dyn, wedi iddynt fod yn hir yn syllu'n dawel ar y cysgod yn cilio oddiar yr haul, "wn i ddim pa bleser yr ydech chi'n ei gael yma ar eich pen eich hun."

Daeth y prudd-der rhyfedd, a welsant ar ei wyneb rai troeon o'r blaen, i guddio'i wyneb eto. Cymerodd hwy ato, arweiniodd hwy i'r cysgod o'r gwres, ac adroddodd iddynt sut y daeth gyntaf i'r lleuad, a hanes y Llotyn Mawr. Yna aeth i feddwl am yr ochenaid a glywodd yng ngwaelod yr agen fawr, canys credai o hyd fod a wnelai honno rywbeth â'r Llotyn.