Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gole'r haul oddiwrthach chi. Teimlad chwithig, hefyd, yw meddwl bod y'ch cartre chi, o bopeth, yn sefyll rhyngoch chi a'r gole. Ond y mae hi felly weithie, 'mhlant i."

"Mi gwelwn ni hi rwan," ebe'r ddau ynghyd, "ac 'rydech chi'n siwr mai'r ddaear ydi'r peth du acw rhyngon ni a'r haul?"

"Ydw," ebe Shonto.

"Du neu beidio, mae hi'n iawn, os y ddaear ydi hi," ebe Dic, "ni waeth am y gole os bydd hi yn y golwg."

Gadawsant y dyn a Shonto. Dringasant i ben y mynydd uchaf o fynyddoedd y lleuad i gyd,—

"Wel," ebe hwy, y naill wrth y llall, ar ôl dringo i'w ben, yr yden ni mor agos ati hi rwan ag y mae'n bosib i ni fod."

Daethant i lawr yn eu holau. Safai'r dyn, yntau, yn edrych yn hiraethus tua'r ddaear, ond nid oedd Shonto yno.

"Ymhle mae Shonto, Rhys Llwyd?" ebe hwy.

'Pan ddechreuodd yr haul ail ddisgleirio," ebe'r dyn, "yr oedd y lleuad yn ddisglair i bobol y ddaear, yn goleuo iddyn nhw, fel y mae o rwan. Ac mi aeth Shonto'n ôl ar un o'r pelydre. Mi faswn inne wedi mynd am dro efo fo ond nad oeddwn i ddim am y'ch gadel chi ar ôl."

Aroshasant i wylio'r ddaear. Y mae'n wir na welent mo'r ddaear ei hun, dim ond duwch ar yr haul, a hwnnw erbyn hyn yn dechreu cilio. Ond daeth rhyw lwmp rhyfedd i wddf pob un o'r tri