Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yden nhw ar yr ochor ole, dyden nhw ddim yn gweld y lleuad yma o gwbwl, o achos gwynebu'r haul y mae nhw, ac y mae hi'n ddydd arnyn nhw." "Be ydi diffyg ar y ddaear?" ebe Moses wedyn, a'i lais yn crynu, ydio'n rhywbeth sy'n niweidio pobol y ddaear?"

"Nag ydi, debyg iawn," ebe Shonto, "mwy nag y mae hwn yn ein niweidio ni. Mae hwn i bobol y ddaear yn ddiffyg ar y lleuad."

"Sut felly?" ebe Dic yn ddyryslyd.

"Fel hyn," ebe Shonto. "Dene ydi diffyg ar y ddaear,—mi welsoch y ddaear pan oedd hi'n nos yn tywynnu arnon ni fel lleuad fawr. Weithie ar adeg felly, yr yden ni—y lleuad ydwi'n i feddwl —yn mynd rhyngddi hi a'r haul, a'r lleuad yn taflu'i chysgod arni, fel y mae hi—y ddaear—yn taflu ei chysgod arnon ni rwan. Mae hyn i ni yn ddiffyg ar y ddaear, ond iddyn' nhw diffyg ar yr haul ydio,—am fod y lleuad, sy'n cuddio'r ddaear o olwg yr haul, yn cuddio'r haul, hefyd, o olwg y ddaear. 'Does dim niwed mewn diffyg,— dydio'n ddim ond un peth yn taflu'i gysgod ar beth arall, a chadw'r gole oddiwrtho."

Edrychodd Shonto'n fyfyriol a phrudd, a daeth golwg hen iawn dros ei wyneb am ennyd, fel yr olwg ar wynebau'r bobl sydd bob amser yn eich cynghori. "Ia," eb ef yn araf, "dene ydi pob diffyg,—ar ddyn ac ar fyd,—rhywbeth neu rywun sydd yn dwad rhyngddyn nhw a'r gole. Ac y mae'ch hen gartre chi rwan yn cadw