Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I

EISIAU NEWID BYD

NOSON loergan lleuad oedd hi, yn nyfnder gaeaf, a chloch y Llan yn canu. Dywedai hi fod gwasanaeth yn yr Eglwys, ac atgoffâi'r gwrth-eglwyswyr fod eu Seiadau hwythau yn y Capeli ar yr un noson a'r un awr. Nid oedd yr hen gloch yn dal dig at neb.

Yn llechu mewn hen dwll tywod dan gysgod y Wal Newydd, ar bwys Coed y Tyno, yr oedd dau fachgen, â golwg cynllunio dwfn ar hwynebau,—un ohonynt yn edrych yn fentrus a gwridog, a'r llall yn ofnus a gwelw. Dros ben y Wal Newydd chwyfiai Coed y Tyno yn yr awel rhyngddynt a'r awyr, gan chwarae'n ôl a blaen ar draws wyneb y lleuad lawn.

Richard a Moses oedd enwau bedydd y ddau fachgen, ond eu henwau yn ôl Morus Llwyd y Gyrrwr,—am fod tad y naill yn ddaliwr adar di-ail, a thad y llall yn berchen asyn tywyll ei liw, oedd Dic y Nicol a Moi'r Mul Du. A chan mai creu glasenwau oedd galwedigaeth Morus Llwyd, a gyrru'n unig yn ei oriau hamdden, dyna enwau cyffredin y bechgyn ar dafodau'r di-ras. Deuddeg oedd oed y naill, a thair ar ddeg y llall.

Buont yn y twll tywod yn hir. Arhosent weithiau'n hollol lonydd a myfyrgar gan edrych