Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar eu traed. Aent allan ar dro wedyn i chwilio cwrs y wlad. Cilient yn ôl i gysgod y twll tywod pan ddeuai rhywun heibio. O'r diwedd distawodd y gloch.

"Mae hi'n rhy hwyr i fynd i'r Seiat rwan, beth bynnag," ebe Dic wrth Foses, â golwg fygythiol ar ei wyneb, fel pedfai'n barod i fathru pob blaenor ar wyneb y ddaear fel chwilen dan ei droed. Edrych yn euog ac ofnus a wnâi Moses.

"Yden ni'n gneud yn iawn trwy beidio â mynd, dywed?" eb ef, gan edrych yn syn ar y lleuad. Yr oedd y ddau wedi dyfod allan o'r twll tywod, ac yn sefyll ar y ffordd fawr erbyn hyn. Nid atebodd Dic ef am ennyd. A daliodd y ddau i edrych i fyny ar y lleuad lawn. Chwyfiai Coed y Tyno'n ôl a blaen rhyngddynt â hi. Gwelent y dyn yn y lleuad yn glir, a'r baich drain ar ei gefn, ac edrychai fel pe'n chwarae mig â hwy rhwng y canghennau. Diflannai am eiliad, a deuai i'r golwg drachefn dan wenu. Diflannai eilwaith, ac ymddangosai ymhen eiliad wedyn, yn gwenu'n fwy eiddgar nag erioed.

"Wyddost ti be," ebe Dic, a deimlai'n bur henaidd ar y funud, "mae hen ddyn y lleuad yn edrych yn llawen iawn drwy'r coed yma. Ac mae'r lleuad ei hun fel tase hi'n chwerthin. Ydi hi'n chwerthin, tybed, am fod yr hen ddyn yn hapus ? Mae o, â'i faich drain, yn edrych yn hapusach na ni heb yr un. Dydi hyd yn oed cario drain ddim yn edrych yn beth poenus bob amser."